Tai Canolbarth Cymru
“Rydym yn y busnes o barhau i ddarparu tai fforddiadwy o safon uchel sy’n anelu i ateb dymuniadau pobl leol a chymunedau drwy flaengaredd, ymroddiad ac ymrwymiad i ragoriaeth.” Am fwy o wybodaeth cliciwch fan null
Atal Digartrefedd yw ein blaenoriaeth a gallwn gynnig help beth bynnag fo’r rheswm.
Shelter Cymru
Rydym yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth er mwyn helpu pobl i ganfod y dewisiadau gorau ar gyfer dod o hyd i gartref a’i gadw, ac i’w helpu nhw i gymryd rheolaeth ar eu bywydau eu hunain. Am fwy o wybodaeth cliciwch fan hyn
Nod y prosiect yw gwella bywydau pobl drwy godi ymwybyddiaeth o hawliau pobl o ran tai, dyled a budd-daliadau lles, a gwella nifer y bobl sy’n ymgymryd â’r hawliau hyn, er mwyn atal digartrefedd a lleddfu tlodi. Am fwy o wybodaeth cliciwch fan HYN
Cymuned Wallich Clifford Prosiect Ceredigion
Mae’s Gwasanaeth Datrys yn gweithredu system apwyntiadau o ddydd Llun hyd ddydd Gwener ac mae’r gwasanaeth yn weithredol drwy Geredigion yn gyfan.
Cymuned Wallich Clifford Prosiect Ceredigion
Tai Wales and West
Cymdeithas dai yw Tai Wales and West sy’n darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel a gwasanaethau lletya i bron i 3,500 o bobl ar draws ardal pedwar awdurdod lleol yng ngorllewin Cymru: Ceredigion, Gogledd Sir Benfro, Gogledd Sir Gaerfyrddin ac ardal Machynlleth ym Mhowys.
Tai Ceredigion
Mae Tai Ceredigion yn Gymdeithas Tai newydd, leol, ddi-elw. Y mae’n Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus (wedi’i chofrestru o dan reolau elusennol) ac y mae hefyd wedi’i chofrestru â’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Oherwydd hyn gall incwm Tai Ceredigion i gyd gael ei fuddsoddi yn ôl mewn gwella cartrefi tenantiaid, darparu gwasanaethau o safon uchel i denantiaid a lesddeiliaid a rhedeg y gwasanaeth tai.