Yn ystod addysg eich plentyn efallai y gwelwch fod angen rhywfaint o gymorth ariannol i helpu chi i gefnogi eich plentyn.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig cymorth ariannol trwy’r canlynol:
Am fanylion pellach ynghlych pwy sy’n gymwys I gael cymorth ar unrhyw un o’r uchod cysylltwch â:
Cyllid Myfyrwyr
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UE
Mae cymorth ychwanegol ar gael drwy:
Lwfans Cynhaliaeth Addysg
Mae’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) ar gael i ddysgwyr 16 oed a mwy sy’n dod o aelwydydd a chanddynt incwm o £30,810 neu lai. Swm o arian yw hwn a delir bob wythnos i ddysgwyr sydd wedi llofnodi contract LCA gyda’u hysgol neu eu coleg a gellir ei ddefnyddio i helpu i dalu costau teithio, llyfrau neu offer ar gyfer cwrs. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’ch ysgol/coleg lleol neu ewch i www.learning.wales.gov.ukCymorth ariannol i fyfyrwyr
Mae holl geisiadau newydd am gymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr yn awry n dod o dan gylch gwaith y cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Am fwy o wybodaeth am pa gymorth sydd ar gael I chi ewch I’r wefan ganlynol.Cyllid Myfyrwyr CymruHawl i Gymorth Cludinat
Mae null yn darparu gwybodaeth am deithio ar gyfer plant sy’n mynychu ysgol neu ar gyfer Addysg ôl 16. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Uned Cludiant Teithwyr Gorfforaethol. CPTUUned Trafnidiaeth
Canolfan Rheidol
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UE Rhif Ffôn: 01970 633555 E-bost: cptu@ceredigion.gov.uk
A oes angen Cymorth Ariannol arnoch er mwyn prynu cyfrifiadur neu liniadur
Y wefan ar gyfer y cynllun hwn yw Get on line at home. Y lle hawdd i sicrhau’ch cyfrifiadur cyntaf fforddiadwy iawn a fydd yn barod ar gyfer y rhyngrwyd.
Rhaid i chi fod yn elusen gofrestredig yn y DU neu fod yn cael o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol er mwyn manteisio ar y pris rhatach.
- Budd-dal Tai
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans ceisio gwaith
- Credyd pensiwn
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Lwfans Gweini / Lwfans Gweini Cyson
- Lwfans Gofalwr
- Budd-dal Analluogrwydd / Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Elfen anabledd y Credyd Treth Gwaith